Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Yr Arglwydd (Cyfanswm: 33)

 
(0, 2) 90 Ai dyna'r cwbl oedd gennyt i'w lefaru?
(0, 2) 91 A ddôi di fyth i achwyn a galaru?
(0, 2) 92 A oes ar wyneb daear ddim yn iawn?
 
(0, 2) 96 Ai hysbys iti Faust?
 
(0, 2) 98 Ie, fy ngwas!
 
(0, 2) 107 Os croes yw ei wasanaeth ef a'i ffyrdd,
(0, 2) 108 Cyn hir fe'i dygaf i'r goleuni drwyddyn;
(0, 2) 109 Fe ŵyr y garddwr, pan fo'r pren yn wyrdd,
(0, 2) 110 Y daw y ffrwyth yn dâl am lafur blwyddyn.
 
(0, 2) 114 Cyd ag y byddo fyw'n y byd efô,
(0, 2) 115 Cyhyd ni byddi dithau waharddedig.
(0, 2) 116 Tra brwydro dyn, fe dripia ambell dro.
 
(0, 2) 122 O'r goreu! bydded iddo fel y mynni!
(0, 2) 123 Dwg di yr ysbryd hwn o'i darddell gynt,
(0, 2) 124 Ac arwain yntau gyda thi, os ffynni,
(0, 2) 125 I rodio ymaith ar dy ddewis hynt,
(0, 2) 126 Â gwêl, gan gywilyddio, yn dy dro,
(0, 2) 127 Fod pob dyn da'n adnabod ffordd uniondeb,
(0, 2) 128 Er brithed fydd ei dueddiadau fo.
 
(0, 2) 135 Bydd rydd it ddyfod yma ac ymado,
(0, 2) 136 Cans ni chasëais i mo'th debyg di;
(0, 2) 137 O'r holl ysbrydion hynny ar a wado,
(0, 2) 138 Y castiog ydyw'r lleia'i bwys i mi.
(0, 2) 139 Bydd galiu dyn yn fuan yn dihoeni,
(0, 2) 140 Câr lwyr ddiogi, ac am hyn y bu
(0, 2) 141 Roi iddo ef gydymaith fyth y sy
(0, 2) 142 Yn synnu a swyno, ac, megys diawl, yn poeni.
(0, 2) 143 Ond llawen fyddoch chwi, wir feibion Duw,
(0, 2) 144 Ynghanol y prydferthwch uchel ryw!
(0, 2) 145 Y grym, sy'n gweithio ac yn byw'n ddi baid,
(0, 2) 146 Yn nedwydd rwymyn cariad a'ch llehäo,
(0, 2) 147 Â'r peth a rithlyd wibio ar ei naid,
(0, 2) 148 Gosodwch mewn meddyliau a barhäo!